Beti a'i Phobol

BBC Radio Cymru
Beti a'i Phobol
Neueste Episode

Verfügbare Folgen

5 von 636
  • Edwin Humphreys
    Beti George yn holi y cerddor a'r cyn nyrs Edwin Humphreys.Nid yn aml mae Beti yn cael gwestai sydd wedi cael gyrfa mor amrywiol â hynny mewn meysydd mor wahanol i'w gilydd. Ar ôl gadael yr ysgol yn 16 mlwydd oed fe aeth Edwin Humphreys i'r fyddin a bu'n aelod o Fand Pres Catrawd Hussars. Yna bu'n gerddor yn chwarae gyda sawl band Cymraeg ac wedyn fe aeth i'r Brifysgol yn 30 mlwydd oed i astudio cerdd - ond wedi iddo raddio, doedd dim digon o waith ac felly penderfynodd gael gradd arall mewn nyrsio.Treuliodd flynyddoedd yn nyrsio mewn meysydd heriol, ac wedi ymddeol o'r swydd yna fe gafodd swydd arall yn gweithio gyda Gwasanaeth Cerdd Gwynedd. Mae'n Dad balch i 3 o blant ac mae'n dewis 4 cân yn cynnwys un gan y grŵp Pys Melyn gan fod ei fab Ceiri yn y band.
    --------  
    48:51
  • Sioned Fôn Jones
    Sioned Fôn Jones, gwyddonwraig ifanc o bentref Waunfawr, Gwynedd yw gwestai Beti George.Mae wedi creu cwmni Booby Biome yn Llundain. " Ni oedd y cwmni cyntaf o'i fath yn y maes yma" meddai Sioned. Maen nhw'n creu llaeth sydd yn debyg i laeth y fron, "mae'n cocktail o facteria perffaith i fabi" tebyg i probiotic sydd wedi ei ddylunio o laeth y fron gan griw o wyddonwyr ifanc. Y gobaith ydi y bydd yn cael ei gyflwyno i ysbytai, wardiau babis flwyddyn nesa. Mae’r cwmni wedi tyfu ers ei sefydlu yn 2019. Fe sefydlwyd y cwmni yn Ysbyty Great Ormond Street , gan mae dyma’r ysbyty plant gorau yn y byd ac mae’r ymchwil sydd yn cael ei wneud yno yn arwain y ffordd mewn sawl maes o fewn iechyd plant.Mae gan Sioned lawer o uchafbwyntiau i’w gyrfa. Un pennaf oedd ennill lle ar restr ‘Forbes 30 Under 30’ llynedd. Mae’r wobr yma yn ddathliad o 30 o bobl o dan 30 oed sydd wedi gwneud cyfraniad nodweddiadol yn eu maes ac wedi cyflawni rhywbeth arbennig.Cawn hanesion ei bywyd ac mae'n dewis 4 cân gan gynnwys darn piano arbennig wnaeth y diweddar Annette Bryn Parri ei chwarae i'w diweddar Dad.
    --------  
    41:46
  • Dr Brython Hywel.
    Beti George yn holi Dr Brython Hywel.Bod yn ddeintydd oedd ei uchelgais cyntaf ond ar ôl profiad gwaith yn ysbyty Glan Clwyd fe newidiodd ei feddwl, er bod meddyg ifanc yn fanno wedi dweud wrtho beidio mynd yn feddyg. Ond tydi o ddim wedi difaru anwybyddu cyngor y doctor ifanc ac erbyn hyn wedi blynyddoedd lawer o astudio a hyfforddi mae wedi cyrraedd y brig ac yn arbenigo mewn maes Niwroleg a Niwroffisioleg.Magwyd Brython yn Llangernyw, Dyffryn Conwy. Enillodd ei radd feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2008 cyn gweithio yng ngogledd Cymru am bedair blynedd fel meddyg iau, lle ymgymerodd â'i hyfforddiant sylfaen yn Ysbyty Glan Clwyd a hyfforddiant meddygol craidd yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Tra roedd yno, fe ymgeisiodd i gael hyfforddiant yn Lerpwl fel Niwrolegydd. Ar ôl cwblhau hyfforddiant uwch yng Nghanolfan Walton – canolfan arbenigol y GIG ar gyfer Niwroleg – o 2012 i 2019, dechreuodd fel Niwrolegydd Ymgynghorol a Niwroffisiolegydd Clinigol ym mis Awst 2019.Mae Brython bellach yn bennaeth yr adran Niwroffisioleg yng Nghanolfan Walton lle mae’n gwneud gwaith EMG ac EEG. Mae Brython hefyd yn gwneud clinigau niwroleg ac adolygiadau ward yn Ysbyty Gwynedd. Cawn hanes difyr ei fywyd a'i waith ac mae'n dewis 4 darn o gerddoriaeth yn cynnwys Cymru, Lloegr a Llanrwst, gan Y Cyrff. Roedd tad Brython yn diwtor dosbarth ar Mark Roberts Y Cyrff yn Ysgol Dyffryn Conwy.
    --------  
    49:00
  • Jâms Powys
    Beti George sydd yn holi'r peilot Jâms Powys.Ar hyn o bryd mae'n gweithio i gwmni awyrennau British Airways ac mae'n cyfarch y teithwyr yn Gymraeg.Ers yn blentyn bach doedd dim byd arall yn apelio fel gyrfa, ac fe ddechreuodd hedfan cyn iddo yrru car. Cawn glywed ei hanesion yn hedfan i Efrog Newydd, Nigeria a Mecsico. Mae'n sôn am gyfnod Covid ac effaith hynny ar y diwydiant, ac am newidiadau sydd tuag at danwydd mwy gwyrdd yn sgil newid hinsawdd.
    --------  
    44:03
  • Jane Richardson
    Beti George sy'n holi Jane Richardson - Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru.Fe gafodd Jane ei geni a'i magu yn Lloegr. Cymraes oedd ei mam, ac i Gymru y bydden nhw'n dod fel teulu ar eu gwyliau.Wedi graddio yn Rhydychen ac yna priodi, fe ddaeth i Ben Llŷn i fyw, a chael gwaith gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac fe ddysgodd Gymraeg.Ddwy flynedd yn ôl fe'i penodwyd yn Brif Weithredwr yr Amgueddfa Genedlaethol, a hynny ar adeg heriol iawn yn hanes y sefydliad.
    --------  
    47:47

Weitere Gesellschaft und Kultur Podcasts

Über Beti a'i Phobol

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Podcast-Website

Höre Beti a'i Phobol, Die Peter Thiel Story und viele andere Podcasts aus aller Welt mit der radio.at-App

Hol dir die kostenlose radio.at App

  • Sender und Podcasts favorisieren
  • Streamen via Wifi oder Bluetooth
  • Unterstützt Carplay & Android Auto
  • viele weitere App Funktionen

Beti a'i Phobol: Zugehörige Podcasts

Rechtliches
Social
v8.1.2 | © 2007-2025 radio.de GmbH
Generated: 12/13/2025 - 5:05:19 PM